/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Altrincham 2-2 Wrecsam (4-3 ciciau o'r smotyn)

  • Cyhoeddwyd
Tlws FA LloegrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Wrecsam wedi targedu trip arall i Wembley fis Mai.

Mae Wrecsam allan o Dlws FA Lloegr yn dilyn colled ar giciau o'r smotyn nos Wener.

Altrincham sgoriodd gyntaf wrth i Lewis Baines guro Rob Lainon wedi 10 munud.

Ond dod yn ôl yn gryf wnaeth tîm ifanc y Dreigiau gyda Jake Bickerstaff yn rhwydo ddwywaith cyn yr egwyl.

Gwnaeth perfformiad yr ymosodwr 21 oed ddim drwg i'w obeithion o sicrhau mwy o funudau i'r tîm cyntaf.

Ond gorfodwyd y gêm i giciau o'r smotyn wedi i'r tîm cartref unioni'r sgôr wedi 89 munud.

Wrth i chwaraewyr Wrecsam flino fe ysgogodd gôl Zak Goodson sawl ymdrech hwyr gan y tîm sy'n chwarae adran yn îs, ond mynd i giciau o'r smotyn wnaeth hi.

Arbedwyd cic Bickerstaff gan gyn-golwr Cei Connah, Ollie Byrne, gyda Reece Hall-Johnson hefyd yn methu ei gic wrth iddo fynd ymhell dros y trawst.

Methu wnaeth Lundstram gyda thrydedd cic y tîm cartref hefyd, ond rhwydodd Mullarkey y gic dyngedfenol i sicrhau lle Altrincham yn y pumed rownd.

Bydd golygon Wrecsam nawr yn troi at ymweliad Maidstone i'r Cae Ras ddydd Sadwrn nesaf.