Ail-ddynodi cynllun rheilffordd yn 'atal arian i Gymru', medd AS

Mae'r Trysorlys yn mynnu mai "gwall cyhoeddi" oedd dynodi'r datblygiad ar gyfer Lloegr yn unig
- Cyhoeddwyd
Roedd cynlluniau gwreiddiol i wario £6.6bn ar reilffordd rhwng Rhydychen a Chaergrawnt yn dynodi'r prosiect fel un Lloegr yn unig, yn ôl Aelod Seneddol.
Byddai Cymru'n elwa o filiynau o bunnoedd o gyllid cyfatebol o'r prosiect pe bai hynny yn wir.
Dywedodd AS Plaid Cymru, Ben Lake, fod papurau'r Trysorlys yn dangos bod y cynllun wedi cael ei newid i fod yn un ar gyfer "Cymru a Lloegr."
Mae'r Trysorlys yn mynnu mai "gwall cyhoeddi" oedd dynodi'r datblygiad ar gyfer Lloegr yn unig.
Gwrthod yr eglurhad hynny mae Mr Lake sydd yn cyhuddo llywodraeth Prydain o "symud y postyn".

Dywedodd AS Plaid Cymru, Ben Lake, fod papurau'r Trysorlys yn dangos bod y cynllun wedi cael ei newid i fod yn un ar gyfer "Cymru a Lloegr
Mae Mr Lake yn dweud bod y penderfyniad i ail-ddynodi'r prosiect yn un ar gyfer Cymru a Lloegr yn golygu bod Cymru'n colli cyllid 'hanfodol'.
"Yn yr holl ddogfennau'r Trysorlys ers 2020 maen nhw wedi ymdrin â hi fel prosiect ar gyfer Lloegr yn unig," meddai.
"Ac felly mi fydd Llywodraeth Cymru wedi derbyn arian cyfatebol ar gyfer y gwariant ar y prosiect hwnnw ers y pum mlynedd d'wethaf."
Roedd y rheilffordd yn cael ei ystyried yn un Lloegr yn unig yn nogfennau Datganiad o Bolisi Ariannu llywodraeth y DU yn 2020, 2021 a 2023 cyn newid.
"Fodd bynnag 'da'n ni'n deall bod y llywodraeth nawr yn [newid] categoreiddio'r prosiect ond maen nhw'n gwneud hynny mewn ffordd fydd yn golygu bydd Cymru yn colli allan," medd Mr Lake.

Mae'r rheilffordd rhwng Rhydychen a Chaergrawnt wedi cael ei ddynodi'n swyddogol yn brosiect "Cymru a Lloegr"
Mae'r Trysorlys wedi dweud mai camgymeriad oedd rhoi'r rheilffordd yn y categori o brosiectau "Lloegr yn unig."
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys: "Gwall cyhoeddi oedd hyn yn y Datganiad o Bolisi Ariannu wedi Adolygiad Gwariant 2020."
Dyw Mr Lake ddim yn derbyn hynny.
"Yn gyntaf, dwi wedi dysgu ers fy mlynyddoedd yn San Steffan, nad yw'r trysorlys byth yn gwneud camgymeriadau."
Mae'n dweud bod hynny yn codi cwestiynau ynglŷn â'r arian y mae llywodraeth Cymru eisoes wedi ei dderbyn dan y fformiwla Barnett.
"Maen nhw wedi talu arian cyfatebol i lywodraeth Cymru, felly os mai camgymeriad cyhoeddi oedd hi, fydde dyn ddim yn disgwyl wedyn bod yr arian wedi llifo o Lundain i gronfeydd llywodraeth Cymru," meddai Mr Lake.
"Os, fel maen nhw'n dadlau, camgymeriad oedd hyn, yna dyw'r arian hynny ddim yn ddyledus i Gymru, ac felly mae cwestiwn lletchwith iawn yn codi a fydd yn rhaid i lywodraeth Cymru dalu rhywfaint o hynny yn ôl i lywodraeth Prydain">