Cymru yn disgwyl ennill yn erbyn un o dimau gwannaf y byd

Fe sicrhaodd Cymru bedwar pwynt o'u dwy gêm gyntaf yn y grŵp fis Mawrth
- Cyhoeddwyd
Bydd Cymru'n herio Liechtenstein yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Wener, yn disgwyl parhau gyda'u dechrau addawol i ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd.
Llwyddodd tîm Craig Bellamy i ennill pedwar pwynt o'u dwy gêm gyntaf yn y grŵp fis Mawrth, gyda gêm gyfartal yng Ngogledd Macedonia a buddugoliaeth yn erbyn Kazakhstan yng Nghaerdydd.
Y disgwyl ydy y bydd Cymru'n ennill yn gyfforddus yn erbyn tîm gwannaf y grŵp rhagbrofol nos Wener.
Yn safle 205 ar restr detholion FIFA, ar bapur, dim ond llond llaw o wledydd trwy'r byd sy'n waeth na Liechtenstein.

Dydy Cymru heb golli eto gyda Craig Bellamy wrth y llyw
Ond mae her llawer mwy yn wynebu carfan Bellamy nos Lun, pan fyddan nhw'n teithio i Frwsel i herio Gwlad Belg.
Honno ydy gêm anoddaf Cymru yn y grŵp - eto, ar bapur - a byddai dod oddi yno gyda chanlyniad positif yn hwb mawr i'w gobeithion o gyrraedd Cwpan y Byd 2026 yng ngogledd America.
Dim ond enillwyr y grŵp fydd yn sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd, gyda'r tîm sy'n gorffen yn ail yn cael lle yn y gemau ail gyfle.
Ond mae Cymru, i bob pwrpas, eisoes wedi sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle gan eu bod wedi ennill eu grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd llynedd.
Nosweithiau di-gwsg i Bellamy
Ag yntau yn y rôl ers bron i flwyddyn bellach, dydy Cymru heb golli gyda Bellamy wrth y llyw, gyda record o bedair buddugoliaeth a phedair gêm gyfartal.
Er, bu bron i hynny ddod i ben yng Ngogledd Macedonia fis Mawrth, gyda gôl David Brooks yn y 96ed munud yn eu hachub yn Skopje.
Ond yn ogystal â'r canlyniadau, mae'r perfformiadau wedi bod yn addawol hefyd, gyda'r cefnogwyr yn falch o weld Cymru'n ceisio chwarae ar y droed flaen.
Er y 176 o lefydd sy'n gwahanu'r ddau dîm ar restr detholion FIFA, mae Bellamy yn dweud ei fod wedi cael nosweithiau di-gwsg yn poeni am y posibilrwydd o beidio â sicrhau triphwynt nos Wener.

Mae capten Leeds United, Ethan Ampadu, a chwaraewr canol cae Fulham, Harry Wilson, yn ôl yn y garfan
"Ennill y gêm - dyna'r cyfan. Dwi ddim yn poeni am sgôr, na'r hyn na'r llall," meddai.
"Ydw i'n deall pobl yn edrych heibio i'r gêm yma? Wrth gwrs. Ydw i'n deall pobl sy'n credu y dylen ni ennill? Wrth gwrs.
"Ond ro'n i'n effro yn hwyr neithiwr. Nes i ddim cysgu'n dda. Ydy hynny'n dweud rhywbeth?
"Dwi'n trin pob tîm yr un ffordd. Dwi wedi gwylio cymaint o gemau Liechtenstein ag unrhyw dîm arall.
"Dwi'n meddwl os 'dych chi'n amharchu'r gêm, gallai fynd o chwith."

Mae Daniel James wedi gorfod cael ei wahanu rhag gweddill y garfan oherwydd salwch
Fe fydd Daniel James yn absennol yn erbyn Liechtenstein oherwydd salwch, ond dyw hi ddim yn glir eto a fydd asgellwr Leeds United ar gael i wynebu Gwlad Belg.
Yn ôl Bellamy, mae James wedi cael ei wahanu rhag gweddill y garfan er mwyn ceisio atal unrhyw un arall rhag mynd yn sâl.
Dyw'r capten Aaron Ramsey ddim ar gael chwaith oherwydd anaf hirdymor, na chwaith Joe Allen, a gyhoeddodd ei ymddeoliad fis diwethaf.
Ond mae Cymru'n croesawu dau chwaraewr pwysig yn ôl - Ethan Ampadu a Harry Wilson.
Roedd capten Leeds United a chwaraewr canol cae Fulham yn absennol ar gyfer gemau cyntaf yr ymgyrch oherwydd anafiadau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mai
- Cyhoeddwyd25 Mawrth
- Cyhoeddwyd22 Mawrth